The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 78

1I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff. A’m llef y gwaeddais ar DDUW, â’m nef ar DDUW; ac efe a’m gwrandawodd.

2Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.

3Cofiais DDUW, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela.

4Deliaist fy llygaid yn neffro: synodd arnaf, fel na allaf lefaru.

5Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.

6Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal.

7Ai yn dragywydd y bwrw yr ARGLWYDD heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?

8A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?

9A anghofiodd DUW drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.

10A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.

11Cofiaf weithredoedd yr ARGLWYDD; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.

12Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.

13Dy ffordd, O DDUW, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n DUW ni?

14Ti yw y DUW sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd.

15Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela.

16Y dyfroedd a’th welsant, O DDUW, Y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd.

17Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant.

18Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.

19Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl.

20Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.

← Llyfr y Salmau 77Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 79 →

Study Llyfr y Salmau 78

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150