The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 148

1Molwch yr ARGLWYDD: canys da yw canu i’n DUW ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl.

2Yr ARGLWYDD sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel.

3Efe sydd yn iachau y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.

4Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau.

5Mawr yw ein HARGLWYDD, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall.

6Yr ARGLWYDD sydd yn dyrchafu rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.

7Cydgenwch i’r ARGLWYDD mewn diolchgarwch: cenwch i’n DUW â’r delyn;

8Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.

9Efe, sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthant, ac i gywion y gigfran, pan lefant.

10Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr.

11Yr ARGLWYDD sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.

12Jerwsalem, mola di yr ARGLWYDD: Seion, molianna dy DDUW.

13Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn.

14Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith.

15Yr hwn sydd yn anfon ei or chymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan.

16Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw.

17Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef?

18Efe a enfyn ei air, ac a’u tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, ar dyfroedd a lifant.

19Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel.

20Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 147Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 149 →

Study Llyfr y Salmau 148

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150