The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 140

1I'r Pencerdd, Salm Dafydd. ARGLWYDD, chwiliaist, ac adnabuost fi.

2Ti a adwaenost fy eisteddiad a'm cyfodiad: deelli fy meddwl o bell.

3Amgylchyni fy llwybr a'm gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd.

4Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, ARGLWYDD, ti a'i gwyddost oll.

5Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf.

6Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.

7I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?

8Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti: Os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.

9Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:

10Yno hefyd y'm tywysai dy law, ac y'm daliai dy ddeheulaw.

11Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o'm hamgylch.

12Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.

13Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam.

14Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.

15Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y'm cywreiniwyd yn iselder y ddaear.

16Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.

17Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O DDUW! mor fawr yw eu swm hwynt!

18Pe cyfrifywn hwynt, amlach ydynt na'r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.

19Yn ddiau, O DDUW, ti a leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf:

20Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer

21Onid cas gennyf, O ARGLWYDD, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i'th erbyn?

22A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.

23Chwilia fi, O DDUW, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;

24A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.

← Llyfr y Salmau 139Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 141 →

Study Llyfr y Salmau 140

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150