The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 37

1I’r Pencerdd, Salm Dafydd gwas yr ARGLWYDD. Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn DUW o flaen ei lygaid ef.

2Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas.

3Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.

4Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a'i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni.

5Dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.

6Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, ARGLWYDD.

7Mor werthfawr yw dy drugaredd, O DDUW! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd.

8Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.

9Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.

10Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwaenant, a’th gyfiawnder i'r rhai uniawn o galon.

11Na ddeued troed balchder i'm herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi.

12Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.

← Llyfr y Salmau 36Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 38 →

Study Llyfr y Salmau 37

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150