The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 93

1neu Gân ar y dydd Saboth. A yw moliannu yr ARGLWYDD, a chanu mawl i’th enw di, Y Goruchaf:

2A mynegi y bore am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau;

3Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol.

4Canys llawenychaist fi, O ARGLWYDD â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo gorfoleddaf.

5Mor fawredig, O ARGLWYDD, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.

6Gŵr annoeth ni ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn.

7Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd.

8Tithau, ARGLWYDD, wyt ddyrchafedig yn dragywydd.

9Canys wele, dy elynion, O ARGLWYDD, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd.

10Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir.

11Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn.

12Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus.

13Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD a flodeuant yng nghynteddoedd ein DUW.

14Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant:

15I fynegi mai uniawn yw yr ARGLWYDD fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.

← Llyfr y Salmau 92Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 94 →

Study Llyfr y Salmau 93

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150