The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 103

1Gweddi'r cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr ARGLWYDD. ARGLWYDD, clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat.

2Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf, brysia, gwrando fi.

3Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a'm hesgyrn a boethasant fel aelwyd.

4Fy nghalon a drawyd, ac a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fy mara.

5Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd.

6Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch.

7Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ.

8Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.

9Canys bwyteais ludw fel bara, a chymysgais fy niod ag wylofain;

10Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr.

11Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais.

12Tithau, ARGLWYDD, a barhei ya dragwyddol, a’th gofradwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

13Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth.

14Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi.

15Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr ARGLWYDD, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogonoiant.

16Pan adeilado yr ARGLWYDD Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant.

17Efe a edrych at weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.

18Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr ARGLWYDD.

19Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr ARGLWYDD a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear;

20I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau;

21I fynegi enw yr ARGLWYDD yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem:

22Pan gasgler y bobl ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr ARGLWYDD.

23Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau.

24Dywedais, Fy NUW, na chymer fi ymaith yng nghanol, fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.

25Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.

26Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir.

27Tithau yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni ddarfyddant.

28Plant dy weision a barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.

← Llyfr y Salmau 102Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 104 →

Study Llyfr y Salmau 103

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150