The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 97

1Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad newydd; cenwch, i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.

2Cenwch i’r ARGLWYDD, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.

3Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.

4Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.

5Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

6Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.

7Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r ARGLWYDD, rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.

8Rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd.

9Addolwch yr ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.

10Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn.

11Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyfiawnder.

12Gorfoledded y maes, a’r hyn oll sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant

13O flaen yr ARGLWYDD; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.

← Llyfr y Salmau 96Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 98 →

Study Llyfr y Salmau 97

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150