The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 131

1Caniad y graddau. O’r dyfnder y llefais arnat, O ARGLWYDD.

2ARGLWYDD, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.

3Os creffi ar anwireddau, ARGLWYDD, O ARGLWYDD, pwy a saif?

4Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner.

5Disgwyliaf am yr ARGLWYDD, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.

6Fy enaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore;

7Disgwylied Israel am yr ARGLWYDD; oherwydd y mae trugaredd gyda’r ARGLWYDD, ac aml ymwared gydag ef.

8Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.

← Llyfr y Salmau 130Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 132 →

Study Llyfr y Salmau 131

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150