The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 35

1Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd. Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.

2Yn yr ARGLWYDD y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant.

3Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi; a chyd-ddyrchafwn ei enw ef.

4Ceisiais yr ARGLWYDD, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn.

5Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd.

6Y tlawd hwn a lefodd, a’r ARGLWYDD a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau.

7Angel yr ARGLWYDD a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt.

8Profwch, a gwelwch mor dda yw yr ARGLWYDD: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.

9Ofnwch Yr ARGLWYDD, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef.

10Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr ARGLWYDD, ni bydd arnynt eisiau dim daioni.

11Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr ARGLWYDD.

12Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni?

13Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll.

14Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.

15Llygaid yr ARGLWYDD sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt.

16Wyneb yr ARGLWYDD sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear.

17Y rhai cyfiawn a lefant; a’r ARGLWYDD a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau.

18Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.

19Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr ARGLWYDD a’i gwared ef oddi wrthynt oll.

20Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt.

21Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir.

22Yr ARGLWYDD a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.

← Llyfr y Salmau 34Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 36 →

Study Llyfr y Salmau 35

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150