The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 84

1Cân neu Salm Asaff. O DDUW na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O DDUW.

2Canys wele, dy elynion, sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau.

3Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di.

4Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.

5Canys ymgyngorasant yn unfryd; ac ymwnaethant i’th erbyn;

6Pebyll Edam, a’r Ismaeliaid; y Moabiaid, a’r Hagariaid;

7Gebal, ac Ammon, ac Amalec; y Philistiaid, gyda phreswylwyr Tyrus.

8Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela.

9Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison:

10Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i’r ddaear.

11Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Seeb; a’u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna:

12Y rhai a ddywedasant, Cymerwn i ni gyfanheddau DUW i’w meddiannu.

13Gosod hwynt, O fy NUW, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.

14Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd;

15Felly erlid di hwynt â’th dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt.

16Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O ARGLWYDD.

17Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt:

18Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.

← Llyfr y Salmau 83Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 85 →

Study Llyfr y Salmau 84

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150