Llyfr y Salmau 143
1Maschil Dafydd; Gweddi pan oedd efe yn yr ogof. Gwaeddais â'm llef ar yr ARGLWYDD; â'm llef yr ymbiliais â’r ARGLWYDD.
2Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.
3Pan ballodd fy ysbryd o'm mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl.
4Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.
5Llefais arnat, O ARGLWYDD; dywedais, ti yw fy ngobaith, a'm rhan yn nhir y rhai byw.
6Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi.
7Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a fyddi da wrthyf.
Study Llyfr y Salmau 143
KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)
All Chapters
123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150