The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 60

1I’r pencerdd, Al-taschith, Michtam Dafydd, pan yrrodd Saul rai i gadw y tŷ i’w ladd ef. Fy NUW, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn.

2Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.

3Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd ced yrn i’m herbyn; nid ar fy mai na’m pechod i, O ARGLWYDD.

4Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i’m cymorth, ac edrych.

5A thi, ARGLWYDD DDUW y lluoedd, DUW Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd: na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Sela.

6Dychwelant gyda’r hwyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

7Wele, bytheiriant â’u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw?

8Ond tydi, O ARGLWYDD, a’u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.

9Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys DUW yw fy amddiffynfa.

10Fy NUW trugarog a’m rhagflaena: DUW a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.

11Na ladd hwynt, rhag i’m pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O ARGLWYDD ein tarian.

12Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a’r celwydd a draethant.

13Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gwybyddant mai DUW sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear. Sela.

14A dychwelant gyda’r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

15Crwydrant am fwyd; ac onis digonir, grwgnachant.

16Minnau a ganaf am dy nerth, ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.

17I ti, fy nerth, y canaf; canys DUW yw fy amddiffynfa, a DUW fy nhrugaredd.

← Llyfr y Salmau 59Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 61 →

Study Llyfr y Salmau 60

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150