The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 66

1I'r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd. Mawl a’th erys di yn Seion, O DDUW: ac i ti y telir yr adduned.

2Ti yw yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd.

3Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei.

4Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd.

5Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O DDUW ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr.

6Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid.

7Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd.

8A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu.

9Yr wyt yn ymweled â'r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon DUW, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi.

10Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi.

11Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a'th lwybrau a ddiferant fraster.

12Diferant ar borfeydd yr anialwch: a'r bryniau a ymwgregysant â hyfrydwch.

13Y dolydd a wisgir â defaid, a'r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.

← Llyfr y Salmau 65Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 67 →

Study Llyfr y Salmau 66

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150