Llyfr y Salmau 34
1Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn, yn yr ARGLWYDD: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl.
2Molwch yr ARGLWYDD â’r delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant.
3Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus
4Canys uniawn yw gair yr ARGLWYDD; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn a ffyddlondeb.
5Efe a gâr gyfiawnder a barn, o drugaredd yr ARGLWYDD y mae y ddaear yn gyflawn.
6Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef.
7Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau.
8Ofned yr holl ddaear yr ARGLWYDD: holl drigolion y byd arswydant ef.
9Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd.
10Yr ARGLWYDD sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd, y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd.
11Cyngor yr ARGLWYDD a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.
12Gwyn ei byd y genedl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
13Yr ARGLWYDD sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.
14O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear.
15Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.
16Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder.
17Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.
18Wele, y mae llygad yr ARGLWYDD ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef;
19I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn.
20Ein henaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD: efe yw ein porth a’n tarian.
21Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.
22Bydded dy drugaredd, ARGLWYDD, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.