The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 76

1I’r Pencerdd, Al-teschith, Salm neu Gân Asaff. Clodforwn dydi, O DDUW, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny.

2Pan dderbyniaf y gynulleidfa, mi a farnaf yn gyfiawn.

3Ymddatadodd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.

4Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:

5Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.

6Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth.

7Ond DUW sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.

8Oblegid y mae ffiol yn llaw yr ARGLWYDD, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.

9Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i DDUW Jacob.

10Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.

← Llyfr y Salmau 75Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 77 →

Study Llyfr y Salmau 76

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150