The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 4

1Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab. ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn.

2Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei DDUW. Selah.

3Ond tydi, ARGLWYDD, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen.

4A’m llef y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Selah.

5Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a’m cynhaliodd.

6Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn.

7Cyfod, ARGLWYDD; achub fi, fy NUW: canys tarewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion.

8Iachawdwriaeth sydd eiddo yr ARGLWYDD: dy fendith sydd ar dy bobl. Selah.

← Llyfr y Salmau 3Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 5 →

Study Llyfr y Salmau 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150