The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 83

1Asaff. DUW sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe.

2Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela.

3Bernwch y tlawd a’r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus.

4Gwaredwch y tlawd a’r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.

5Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle.

6Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.

7Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch.

8Cyfod, O Dduw, barna y ddaear canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.

← Llyfr y Salmau 82Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 84 →

Study Llyfr y Salmau 83

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150