The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 25

1Dafydd. Eiddo yr ARGLWYDD y ddaear, a’i chyfiawnder; y byd, ac a breswylia ynddo.

2Canys efe a'i seiliodd ar y moroedd, ac a'i sicrhaodd ar yr afonydd.

3Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?

4Y glân ei ddwylo, a'r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.

5Efe a dderbyn fendith gan yr ARGLWYDD, a chyfiawnder gan DDUW ei iachawdwriaeth.

6Dyma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela.

7O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

8Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr ARGLWYDD nerthol a chadarn, yr ARGLWYDD cadarn mewn rhyfel.

9O byrth, dyrchefwch eich pennau; a ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

10Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? ARGLWYDD y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.

← Llyfr y Salmau 24Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 26 →

Study Llyfr y Salmau 25

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150