The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 130

1Caniad y graddau. Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:

2Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant.

3Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion.

4Yr ARGLWYDD sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.

5Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion.

6Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith.

7A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes.

8Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr ARGLWYDD arnoch; bendithiwn chwi yn enw yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 129Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 131 →

Study Llyfr y Salmau 130

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150