The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 55

1I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschib Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul. Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni? Achub fi, O DDUW, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid.

2DUW, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau.

3Canys dieithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant DDUW o’u blaen. Sela.

4Wele, DUW sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid.

5Efe a ddâl ddrwg i’m gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd.

6Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O ARGLWYDD; canys da yw.

7Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.

← Llyfr y Salmau 54Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 56 →

Study Llyfr y Salmau 55

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150