The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 13

1I’r Pencerdd ar Seminith, Salm Dafydd. Achub, ARGLWYDD; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion.

2Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant.

3Torred yr ARGLWYDD yr holl wefusau gwenieithus, a’r tafod a ddywedo fawrhydi:

4Y rhai a ddywedant, A’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni?

5Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD; rhoddaf rnewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo.

6Geiriau yr ARGLWYDD ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith.

7Ti, ARGLWYDD, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.

8Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.

← Llyfr y Salmau 12Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 14 →

Study Llyfr y Salmau 13

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150