The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 22

1I’r Pencerdd, Salm Dafydd. ARGLWYDD, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda!

2Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela.

3Canys achubaist ei flaen ef a bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.

4Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd.

5Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.

6Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragywyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd.

7Oherwydd bod y Brenhin yn ymddiried yn yr ARGLWYDD, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef.

8Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gareion.

9Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr ARGLWYDD yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt.

10Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion.

11Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau.

12Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratöi di saethau yn erbyn eu hwynebau.

13Ymddyrcha, ARGLWYDD, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.

← Llyfr y Salmau 21Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 23 →

Study Llyfr y Salmau 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150