The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 79

1Maschil i Asaff. Gwrando fy nghyfraith, fy mhobl: Gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.

2Agoraf fy ngenau mewn dihareb: traethaf ddamhegion o’r cynfyd:

3Y rhai a glywsom, ac a wybuom, ac a fynegodd ein tadau i ni,

4Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr ARGLWYDD, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.

5Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant:

6Fel y gwybyddai yr oes a ddêl, sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau:

7Fel y gosodent eu gobaith ar DDUW, heb anghofio gweithredoedd DUW, eithr cadw ei orchmynion ef:

8Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda DUW.

9Meibion Effraim, yn arfog ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.

10Ni chadwasant gyfamod DUW, eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;

11Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.

12Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan.

13Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr.

14Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân.

15Efe a holltodd y creigiau yn anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.

16Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.

17Er hynny chwanegasant eto bechu yn eu erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.

18A themtiasant DDUW yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.

19Llefarasant hefyd yn erbyn DUW; dywedasant, A ddichon DUW arlwyo bwrdd yn yr anialwch?

20Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl?

21Am hynny y clybu yr ARGLWYDD, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel;

22Am na chredent yn NUW, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:

23Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,

24A glawio manna arnynt i’w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.

25Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.

26Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.

27Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr.

28Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd.

29Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;

30Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,

31Dicllonedd DUW a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.

32Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef.

33Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn.

34Pan laddai efe hwynt, hwy a’i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient DDUW yn fore.

35Cofient hefyd mai DUW oedd eu Craig, ac mai y Gorachaf DDUW oedd eu Gwaredydd.

36Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod:

37A’u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.

38Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt - ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.

39Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.

40Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?

41Ie, troesant a phrofasant DDUW, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.

42Ni chofiasant ei law ef, na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.

43Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan:

44Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed.

45Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha.

46Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys, a’u llafur i’r locust.

47Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew.

48Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt.

49Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.

50Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint.

51Trawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:

52Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.

53Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.

54Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.

55Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.

56Er hynny temtiasant a digiasant DDUW Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:

57Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.

58Digiasant ef hefyd â’u huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau.

59Clybu DUW hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:

60Fel y gadawodd efe dabernacl Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;

61Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn.

62Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth.

63Tân a ysodd eu gwŷr ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd.

64Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant.

65Yna y deffrodd yr Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.

66Ac efe a drawodd ei elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol.

67Gwrthododd hefyd babell Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim:

68Ond efe a etholodd lwyth Jwda, mynydd Seion, yr hwn a hoffodd.

69Ac a adeiladodd ei gysegr fel llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.

70Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid:

71Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.

72Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.

← Llyfr y Salmau 78Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 80 →

Study Llyfr y Salmau 79

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150