The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 137

1Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2Clodforwch DDUW y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.

3Clodforwch ARGLWYDD yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

4Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

5Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

6Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.

7Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:

8Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys, ei drugaredd sydd yn dragywydd:

9Y lleuad a’r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

10Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf-anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;

11Ac a ddug Israel o’u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

12A law gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

13Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

14Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd dragywydd.

15Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

16Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd syd yn dragywydd.

17Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd syd yn dragywydd:

18Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd dragywydd:

19Sehon brenin yr Amoraid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

20Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

21Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

22Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

23Yr hwn yn ein hiselradd a’n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

24Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ei gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

25Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

26Clodforwch DDUW y nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

← Llyfr y Salmau 136Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 138 →

Study Llyfr y Salmau 137

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150