The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 57

1I’r Pencerdd ar Jonath-Elem-Rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath. Trugarha wrthyf, O DDUW: canys a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma.

2Beunydd y’m llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O DDUW Goruchaf.

3Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti.

4Yn NUW y clodforaf ei air, yn NUW y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.

5Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg.

6Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid.

7A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O DDUW, yn dy lidiowgrwydd.

8Ti a gyfrifaist fy symmudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?

9Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod DUW gyda mi.

10Yn NUW y moliannaf ei air: yn yr ARGLWYDD y moliannaf ei air.

11Yn NUW yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.

12Arnaf fi, O DDUW, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.

13Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron DUW yng ngoleuni y rhai byw?

← Llyfr y Salmau 56Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 58 →

Study Llyfr y Salmau 57

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150