The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 107

1Molwch yr ARGLWYDD. Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

2Pwy a draetha nerthoedd yr ARGLWYDD? ac a fynega ei holl fawl ef?

3Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn wnêl gyfiawnder bob amser.

4Cofia fi, ARGLWYDD, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwel â mi â’th iachawdwriaeth.

5Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth.

6Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.

7Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch.

8Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid.

9Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch.

10Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn.

11A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt.

12Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.

13Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef.

14Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant DDUW yn y diffeithwch.

15Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid.

16Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr ARGLWYDD.

17Y ddaear a agorodd, ac a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram.

18Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol.

19Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd.

20Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt.

21Anghofiasant DDUW eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft;

22Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch.

23Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.

24Diystyrasant hefyd y tir dymunol, ni chredasant ei air ef:

25Ond grwgnachasant yn eu pebyll;, ac ni wrandawsant ar lais yr ARGLWYDD,

26Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, i’w cwympo yn yr anialwch;

27Ac i gwympo eu had ymysg y cenhedloedd; ac i’w gwasgaru yn y tiroedd.

28Ymgysylltasant hefyd â Baal-Peor, a bwytasant ebyrth y meirw.

29Felly y digiasant ef â’u dychmygion eu hun; ac y trawodd pla yn eu mysg hwy.

30Yna y safodd Phinees, ac a iawn farnodd: a’r pla a ataliwyd.

31A chyfrifwyd hyn iddo, yn gyfiawnder, o genhedlaeth i genhedlaeth byth.

32Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen; fel y bu ddrwg i Moses o’u plegid hwynt:

33Oherwydd cythruddo ohonynt ei ysbryd ef, fel y camddywedodd â’i wefusau.

34Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt:

35Eithr ymgymysgasant â’r cenhedloedd; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt:

36A gwasanaethasant eu delwau hwynt; y rhai a fu yn fagl iddynt.

37Aberthasant hefyd eu meibion a’u merched i gythreuliaid,

38Ac a dywallasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion a’u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan: a’r tir a halogwyd â gwaed.

39Felly yr ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y puteiniasant gyda’u dychmygion.

40Am hynny y cyneuodd dig yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.

41Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y cenhedloedd; a’u caseion a lywodraethasant arnynt.

42Eu gelynion hefyd a’u gorthrymasant; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy.

43Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun, a hwy a wanychwyd am eu hanwiredd.

44Eto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt, pan glywodd eu llefain hwynt.

45Ac efe a gofiodd ei gyfamod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau.

46Ac a wnaeth iddynt gael tru garedd gan y rhai oll a’u caethiwai.

47Achub ni, O ARGLWYDD ein DUW, a chynnull ni o blith y cenhedloedd: glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant.

48Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 106Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 108 →

Study Llyfr y Salmau 107

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150