The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 17

1Michtam Dafydd. Cadw fi, O DDUW: canys ynot yr ymddiriedaf.

2Fy enaid, dywedaist wrth yr ARGLWYDD, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti:

3Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.

4Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod-offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau.

5Yr ARGLWYDD yw rhan fy etifeddiaeth, i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.

6Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg.

7Bendithiaf yr ARGLWYDD, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos.

8Gosodais yr ARGLWYDD bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir.

9Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith:

10Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.

11Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.

← Llyfr y Salmau 16Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 18 →

Study Llyfr y Salmau 17

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150