The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 38

1Dafydd. Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd.

2Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant gwyrddlysiau.

3Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.

4Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.

5Treigla dy ffordd ar yr ARGLWYDD, ymddiried ynddo; ac efe a'i dwg i ben.

6Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a'th farn fel hanner dydd.

7Distawa yn yr ARGLWYDD, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.

8Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.

9Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a etifeddant y tir.

10Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono.

11Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.

12Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.

13Yr ARGLWYDD a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.

14Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd.

15Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir.

16Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.

17Canys breichiau yr annuwiol ion a dorrir: ond yr ARGLWYDD a gynnal y rhai cyfiawn.

18Yr ARGLWYDD a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.

19Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.

20Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr ARGLWYDD fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy.

21Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.

22Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.

23Yr ARGLWYDD a fforddia gerddediad gŵr da; a da fydd ganddo ei ffordd ef.

24Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr ARGLWYDD sydd yn ei gynnal ef â’i law.

25Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu na’i had yn cardota bara.

26Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir.

27Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd.

28Canys yr ARGLWYDD a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith.

29Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.

30Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn.

31Deddf ei DDUW sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant.

32Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.

33Ni ad yr ARGLWYDD ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner.

34Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli.

35Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.

36Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael.

37Ystyr y perffaith, ac edrych at yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.

38Ond y troseddwyr a gyd-ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.

39A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD: efe yw eu nerth yn amser trallod.

40A’r ARGLWYDD a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.

← Llyfr y Salmau 37Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 39 →

Study Llyfr y Salmau 38

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150