The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 56

1I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd Gwrando fy ngweddi, O DDUW; ac ymguddia rhag fy neisyfiad.

2Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan,

3Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherydd y maent yn bwrw arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog.

4Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf.

5Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd.

6A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn.

7Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela.

8Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl.

9Dinistria, O ARGLWYDD, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas.

10Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.

11Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi.

12Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiasiwn rhagddo ef:

13Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod,

14Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ DDUW ynghyd.

15Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

16Myfi a waeddaf ar DDUW; a’r ARGLWYDD a’m hachub i.

17Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.

18Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi.

19DUW a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant DDUW.

20Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod.

21Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.

22Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth.

23Tithau, DDUW, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.

← Llyfr y Salmau 55Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 57 →

Study Llyfr y Salmau 56

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150