The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 32

1I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Ynot ti, ARGLWYDD, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder.

2Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw.

3Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi.

4Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.

5I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O ARGLWYDD DDUW y gwirionedd.

6Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr ARGLWYDD.

7Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau;

8Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder.

9Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol

10Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant.

11Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.

12Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig.

13Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth - pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio.

14Ond mi a obeithiais ynot ti, ARGLWYDD: dywedais, Fy NUW ydwyt.

15Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr.

16Llewyrcha dy wyneb ar dy was, achub fi er mwyn dy drugaredd.

17ARGLWYDD, na waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i’r bedd.

18Gosteger y gwefusau celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.

19Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot, gerbron meibion dynion!

20Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.

21Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.

22Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe’m bwriwyd allan o’th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat.

23Cerwch yr ARGLWYDD, ei holl saint ef: yr ARGLWYDD a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wna falchder.

24Ymwrolwch, ac efe a gryfha eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr ARGLWYDD

← Llyfr y Salmau 31Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 33 →

Study Llyfr y Salmau 32

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150