The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 144

1Dafydd. ARGLWYDD, clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.

2Ac na ddos i farn â'th was: oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.

3Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm.

4Yna y pallodd fy ysbryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.

5Cofiais y dyddiau gynt; myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.

6Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat. Sela.

7Oarglwydd, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn gyffelyb i'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

8Pâr i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore; oherwydd ynot ti y gobeithiaf: pâr i mi wybod y ffordd y rhodiwyf; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid.

9Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O ARGLWYDD: gyda thi yr ymguddiais.

10Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di; canys ti yw fy NUW: tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb

11Bywha fi, O ARGLWYDD, er mwyn dy enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.

12Ac er dy drugaredd dinistria fy ngelynion, a difetha holl gystuddwyr fy enaid: oblegid dy was di ydwyf fi.

← Llyfr y Salmau 143Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 145 →

Study Llyfr y Salmau 144

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150