The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 65

1I'r Pencerdd, Salm Dafydd. Clyw fy llef, O DDUW, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.

2Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:

3Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:

4I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.

5Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a'u gwêl hwynt?

6Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn.

7Eithr DUW a'u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt.

8Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a'u gwelo a gilia.

9A phob dyn a ofna, ac a fynega waith DUW: canys doeth ystyriant ei waith ef.

10Y cyfiawn a lawenycha yn yr ARGLWYDD, ac a obeithia ynddo; a'r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.

← Llyfr y Salmau 64Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 66 →

Study Llyfr y Salmau 65

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150