The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 88

1neu Gân meibion, Cora. Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.

2Yr ARGLWYDD a gâr byrth Seion yn yn fwy na holl breswylfeydd Jacob.

3Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas DUW. Sela.

4Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn.

5Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi.

6Yr ARGLWYDD a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela.

7Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti. 4 Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth. 5 Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law. 6 Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau. 7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela.

8Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt: gwarchaewyd fi fel nad awn allan.

9Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat ARGLWYDD, beunydd; estynnais fy nwylo atat.

10Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela.

11A draethir dy drugaredd mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw?

12A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof?

13Ond myfi a lefais arnat, ARGLWYDD; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen.

14Paham, ARGLWYDD, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?

15Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.

16Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith.

17Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant.

18Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.

← Llyfr y Salmau 87Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 89 →

Study Llyfr y Salmau 88

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150