The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 47

1I’r Pencerdd o feibion Cora, Cân ar Alamoth. Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.

2Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr.

3Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela.

4Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas DUW; cysegr preswylfeydd y Goruchaf.

5DUW sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: DUW a’i cynorthwya yn fore iawn.

6Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear.

7Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; y mae DUW Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela.

8Deuwch, gwelwch weithredoedd yr ARGLWYDD; pa anghyfanhedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear.

9Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân.

10Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd DDUW: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear.

11Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw DUW Jacob. Sela. 1 I’r Pencerdd,

← Llyfr y Salmau 46Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 48 →

Study Llyfr y Salmau 47

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150