Llyfr y Salmau 18
1Gweddi Dafydd. Clyw, ARGLWYDD, gyfiawnder; ystyria fy llefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.
2Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid at uniondeb.
3Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau.
4Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd.
5Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.
6Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O DDUW: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd.
7Dangos dy ryfedd drugareddau. O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.
8Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd,
9Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant; rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant.
10Caeasant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder.
11Ein cyniweirfa ni a gylchynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear.
12Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn lleoedd dirgel.
13Cyfod, ARGLWYDD, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf di;
14Rhag dynion, y rhai yw dy law, ARGLWYDD, rhag dynion y byd, y rhai mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain.
15Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.