The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 23

1I’r Pencerdd ar Aieleth-hasahar, Salm Dafydd. Fy NUW, fy NUW, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iawchawdwriaeth, a geiriau fy llefain?

2Fy NUW, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi.

3Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel.

4Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.

5Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt; ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt.

6A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl.

7Pawb a’r a’m gwelant a’m gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd,

8Ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo

9Canys ti a’m tynnaist o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.

10Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru: o groth fy mam fy NUW ydwyt.

11Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr.

12Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant.

13Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy.

14Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd.

15Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau; ac i lwch angau y’m dygaist.

16Canys cŵn a’m cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a’m traed.

17Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf.

18Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.

19Ond tydi, ARGLWYDD, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo.

20Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci.

21Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist.

22Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf.

23Y rhai sydd yn ofni yr ARGLWYDD, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef.

24Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.

25Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef.

26Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr ARGLWYDD, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.

27Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr ARGLWYDD: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di.

28Canys eiddo yr ARGLWYDD yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.

29Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i’r llwch, a ymgrymant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.

30Eu had a’i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i’r ARGLWYDD yn genhedlaeth.

31Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.

← Llyfr y Salmau 22Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 24 →

Study Llyfr y Salmau 23

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150