The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 89

1Maschil Ethan yr Esrahiad. Trugareddau yr ARGLWYDD a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth.

2Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd.

3Gwneuthum amod i’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd.

4Yn dragywydd y sicrhaf dy had di: ac o genhedlaeth i genhediaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.

5A’r nefoedd, O ARGLWYDD, a foliannant dy ryfeddod; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint.

6Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r ARGLWYDD? pwy a gyffelybir i’r ARGLWYDD ymysg meibion y cedyrn?

7DUW sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd.

8Oarglwydd DDUW y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn IÔR? a’th wirionedd o’th amgylch?

9Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd môr: pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi.

10Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion.

11Y nefoedd ydynt eiddot ti, a’r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a’i gyfiawnder.

12Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.

13Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw.

14Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.

15Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, ARGLWYDD, y rhodiant hwy.

16Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.

17Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.

18Canys yr ARGLWYDD yw ein tarian a Sanct Israel yw ein Brenin.

19Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl.

20Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd:

21Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef.

22Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef.

23Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf.

24Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef.

25A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd.

26Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy NUW, a Chraig fy iachawdwriaeth.

27Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear.

28Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a’m cyfamod fydd sicr iddo.

29Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd.

30Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigethau;

31Os fy neddfau a halogant, a’m gorchmynion ni chadwant:

32Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen ac â’u hanwiredd â ffrewyllau.

33Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni pharaf o’m gwirionedd.

34Ni thorraf fy nghyfammod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau.

35Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd na ddywedwn gelwydd i Dafydd

36Bydd ei had ef yn dragywydd, a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.

37Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.

38Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog.

39Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.

40Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.

41Yr holl fforddolion a’i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i’w gymdogion.

42Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion.

43Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.

44Peraist i’w harddwch ddarfod, a bwrwiaist ei orseddfainc i lawr.

45Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela.

46Pa hyd, ARGLWYDD, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?

47Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer?

48Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela.

49Pa le y mae dy hen drugareddau, O ARGLWYDD, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?

50Cofia, O ARGLWYDD, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;

51A’r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O ARGLWYDD; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog.

52Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD yn dragywydd. Amen, ac Amen.

← Llyfr y Salmau 88Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 90 →

Study Llyfr y Salmau 89

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150