Llyfr y Salmau 2
1Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer?
2Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r pennaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd,
3Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.
4Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd: yr ARGLWYDD a’u gwatwar hwynt.
5Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt.
6Minnau a osodais fy Mrenhin ar Sïon fy mynydd sanctaidd.
7Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais.
8Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant.
9Drylli hwynt â gwïalen haiarn; maluri hwynt fel llestr pridd.
10Gan hynny yr awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg.
11Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn, ac ymlawenhêwch mewn dychryn.
12Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gynneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.