The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 145

1Dafydd. Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i ryfela.

2Fy nhrugaredd, a’m hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.

3ARGLWYDD, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?

4Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.

5ARGLWYDD, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant.

6Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt.

7Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;

8Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.

9Canaf i ti, O DDUW, ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti.

10Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol.

11Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster:

12Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas:

13Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd:

14A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd.

15Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddynt.

← Llyfr y Salmau 144Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 146 →

Study Llyfr y Salmau 145

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150