The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 74

1Asaff. Yn ddiau da yw DUW i Israel; sef i’r rhai glân o galon.

2Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad.

3Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.

4Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini.

5Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill.

6Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn.

7Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth.

8Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel.

9Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear.

10Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.

11Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr DUW? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?

12Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud.

13Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchiais fy nwylo mewn diniweidrwydd.

14Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore.

15Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.

16Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i;

17Hyd onid euthum i gysegr DUW: yna y deellais eu diwedd hwynt.

18Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr.

19Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn.

20Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, dirmygi eu gwedd hwynt.

21Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau.

22Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di.

23Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau.

24A’th gyngor y’m harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant.

25Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais at y ddaear neb gyda thydi.

26Pallodd fy nghnawd a’m calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw DUW yn dragywydd.

27Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt.

28Minnau, nesáu at DDUW sydd i mi: yn yr Arglwydd DDUW y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.

← Llyfr y Salmau 73Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 75 →

Study Llyfr y Salmau 74

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150