The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 111

1Dafydd. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed.

2Gwialen dy nerth a enfyn yr ARGLWYDD o Seion: llywodraetha di yng nghanol dy elynion.

3Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti.

4Tyngodd yr ARGLWYDD, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec.

5Yr ARGLWYDD ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.

6Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad.

7Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.

← Llyfr y Salmau 110Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 112 →

Study Llyfr y Salmau 111

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150