The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 68

1I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân. DUW a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela:

2Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd.

3Molianned y bobl di, O DDUW; molianned yr holl bobl dydi.

4Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela.

5Molianned y bobl di, O DDUW; molianned yr holl bobl dydi.

6Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a DUW, sef ein DUW ni, a’n bendithia.

7DUW a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.

← Llyfr y Salmau 67Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 69 →

Study Llyfr y Salmau 68

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150