The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 41

1I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Disgwyliais yn ddyfal am yr ARGLWYDD; ac efe a ymostyngodd ataf; ac a glybu fy llefain.

2Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad.

3A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n DUW ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr ARGLWYDD.

4Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr ARGLWYDD yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd.

5Lluosog y gwnaethost ti, O ARGLWYDD fy NUW, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.

6Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech-aberth nis gofynnaist.

7Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn yfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf.

8Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O NUW: a’th gyfraith, sydd o fewn fy ghalon.

9Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, ARGLWYDD a’i gwyddost.

10Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a’th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog.

11Tithau, ARGLWYDD, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth.

12Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a’m daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf.

13Rhynged bodd i ti, ARGLWYDD, fy ngwaredu: brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.

14Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.

15Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha.

16Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr ARGLWYDD.

17Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus; eto yr ARGLWYDD a feddwl amdanaf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti; fy NUW, na hir drig.

← Llyfr y Salmau 40Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 42 →

Study Llyfr y Salmau 41

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150