The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 51

1Asaff. DUW y duwiau, sef yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad.

2Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd DUW.

3Ein DUW ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch.

4Geilw at y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.

5Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth.

6A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys DUW ei hun sydd Farnwr. Sela.

7Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: DUW, sef dy DDUW di, ydwyf fi.

8Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.

9Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau.

10Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.

11Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi.

12Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyfiawnder sydd eiddof fi.

13A fwytfâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod?

14Abertha foliant i DDUW; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau:

15A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.

16Ond wrth yr annuwiol y dywedodd DUW, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau?

17Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl.

18Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr.

19Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell.

20Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.

21Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid.

22Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio DUW; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd.

23Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth DUW.

← Llyfr y Salmau 50Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 52 →

Study Llyfr y Salmau 51

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150