The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 39

1Dafydd, er coffa. ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd.

2Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf.

3Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod.

4Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.

5Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd.

6Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.

7Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.

8Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon.

9O’th flaen di, ARGLWYDD, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt.

10Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf.

11Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell.

12Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd.

13A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.

14Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau.

15Oherwydd i mi obeithio ynot, ARGLWYDD; ti, ARGLWYDD fy NUW, a wrandewi.

16Canys dywedais, Gwrando fi rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn.

17Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad.

18Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod.

19Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam.

20A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni.

21Na ad fi, O ARGLWYDD: fy NUW, nac ymhell oddi wrthyf.

22Brysia i’m cymorth, O ARGLWYDD fy iachawdwriaeth.

← Llyfr y Salmau 38Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 40 →

Study Llyfr y Salmau 39

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150