The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 11

1Paham, ARGLWYDD, y sefi o bell? Pam yr ymguddi yn amser cyfyngder?

2Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.

3Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr ARGLWYDD yn ei ffieiddio.

4Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais DDUW: nid yw DUW yn ei holl feddyliau ef.

5Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.

6Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

7Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.

8Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.

9Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd.

10Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.

11Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd DUW: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.

12Cyfod, ARGLWYDD; 0O DDUW, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol.

13Paham y dirmyga yr annuwiol DDUW? dywedodd yn ei galon, nid ymofynni.

14Gwelaist hyn; canys ti a ganfydd anwiredd a cham, i roddi tâl a’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad.

15Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim.

16Yr ARGLWYDD sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef.

17ARGLWYDD, clywaist ddymuniad y tlodion: paratoi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt;

18I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.

← Llyfr y Salmau 10Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 12 →

Study Llyfr y Salmau 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150