The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 33

1Dafydd, er athrawiaeth. Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod.

2Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr ARGLWYDD iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd.

3Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.

4Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela.

5Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r ARGLWYDD; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela.

6Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef.

7Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela.

8Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: i’m llygad arnat y’th gynghoraf.

9Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat.

10Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, trugaredd a’i cylchyna ef.

11Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr ARGLWYDD: a’r rhai uniawn galon oll, cenwch yn llafar.

← Llyfr y Salmau 32Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 34 →

Study Llyfr y Salmau 33

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150