The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 30

1Dafydd. Moeswch i’r ARGLWYDD, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.

2Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: addolwch yr ARGLWYDD ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.

3Llef yr ARGLWYDD sydd ar y dyfroedd: DUW y gogoniant a darana; yr ARGLWYDD sydd ar y dyfroedd mawrion.

4Llef yr ARGLWYDD sydd mewn grym: llef yr ARGTWYDD sydd mewn prydferthwch. 55 Llef yr ARGLWYDD sydd yn dryllio y cedrwydd; ie, dryllia yr ARGLWYDD gedrwydd Libanus.

5

6Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.

7Llef yr ARGLWYDD a wasgara y fflamau tân.

8Llef yr ARGLWYDD a wna i’r anialwch grynu: yr ARGLWYDD a wna i anialwch Cades grynu.

9Llef yr ARGLWYDD a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef.

10Yr ARGLWYDD sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr ARGLWYDD eistedd yn Frenin yn dragywydd.

11Yr ARGLWYDD a ddyry nerth i’w bobl: yr ARGLWYDD a fendithia ei bobl â thangnefedd.

← Llyfr y Salmau 29Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 31 →

Study Llyfr y Salmau 30

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150