The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 67

1I'r Pencerdd, Cân neu Salm. Llawenfloeddiwch i DDUW, yr holl ddaear:

2Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.

3Dywedwch wrth DDUW, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti.

4Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela.

5Deuwch, a gwelwch weithredoedd DUW: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion.

6Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo.

7Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant at y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela.

8O bobloedd, bendithiwch ein DUW, a pherwch glywed llais ei fawl ef.

9Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i'n troed lithro.

10Canys profaist ni, O DDUW: coethaist, fel coethi arian.

11Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa at ein llwynau.

12Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.

13Deuaf i'th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau,

14Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.

15Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl-darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela.

16Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch DDUW; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.

17Llefais arno â’m genau, ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod.

18Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.

19DUW yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi

20Bendigedig fyddo DUW, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.

← Llyfr y Salmau 66Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 68 →

Study Llyfr y Salmau 67

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150