The Bible Software
Llyfr y Salmau · Beibl (1620)

Llyfr y Salmau 104

1Dafydd. Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.

2Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:

3Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:

4Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:

5Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.

6Yr ARGLWYDD sydd: yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll. 77 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.

7

8Trugarog a graslon yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig ei lid, a mawr o drugarowgrwydd.

9Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.

10Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe a ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe ini.

11Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd e drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef.

12Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ei camweddau oddi wrthym.

13Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr ARGLWYDD wrth y rhai a’i hofnant ef.

14Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym.

15Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.

16Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.

17Ond trugaredd yr ARGLWYDD sydd o drawyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i gyfiawnder i blant eu plant;

18I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur.

19Yr ARGLWYDD a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn draethu ar bob peth.

20Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.

21Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl luoedd e; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.

22Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Salmau 103Read In The App, Free →Llyfr y Salmau 105 →

Study Llyfr y Salmau 104

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschCharles SpurgeonScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566676869707172737475767778798081828384858687888990919293949596979899100101102103104105106107108109110111112113114115116117118119120121122123124125126127128129130131132133134135136137138139140141142143144145146147148149150